Frage | Antworten |
Beth yw'r 3 cam o buro dwr? | -gwaddodiad -hidliad -clorineiddiad |
Beth yw ystyr hidrin? | Medru taro/gwasgu mewn i siap heb ei dorri |
Beth yw ystyr hydwyth? | Medru tynnu i mewn i wifrau |
Beth yw ystyr hyblyg? | Mae'n hawdd i blygu |
Pam mae metelau yn hidrin, hydwyth a hyblyg? | oherwydd pan roddir grym ar y metel ma'r haenau o ionau positif yn llithro dros eu gilydd |
Pam mae metelau yn dargludyddion trydanol? | oherwydd mae ganddynt for o electronau dadleoledig sy'n rhydd i symud |
Pam mae gan fetelau ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel? | oherwydd mae angen llawer o egni i dorri'r bondiau metelig cryf |
disgrifiwch bondio ionig? | y bond ionig yw'r atyniad electrostatig rhwng yr ionau positif a negatif |
pam mae gan cyfansoddyn ionig ymdoddbwynt uchel? | oherwydd mae angen llawer o egni i wahanu'r ionau positif a negatif |
cyfansoddyn ionig ar ffurf solid? | ddim yn dargludo trydan oherwydd nid oes ionau yn rhydd i symud |
cyfansoddyn ionig ar ffurf hylif? | yn dargludo trydan am for yr ionau yn rhydd i symud |
pam mae cyfansoddion ionig yn galed? | anodd torri'r atyniadau electrostatig cryf rhwng yr ionau gyda gwefr dirgroes |
pam mae cyfansoddion ionig yn frau? | pan roddir grym ar y solid, mae dwy haen yn llithro dros eu gilydd sy'n achosi i'r ionau o wefr tebyg i fod nesa at eu gilydd, felly fe fydden nhw'n gwrthyrru'r haenau ar wahan |
pam mae cyfansoddion ionig yn hydawdd yn dwr? | oherwydd mae'r atyniadau rhwng yr ionau a'r moleciwlau dwr yn gryfach na'r atyniadau rhwng y moleciwlau dwr a'i gilydd |
priodweddau cyfansoddion cofalent? | -ymdoddbwynt / berwbwynt isel -ddim yn dargludo trydan -llai hydawdd/anhydawdd mewn dwr |
engreifftiau o adeileddau cofalent enfawr? | Deiamwnt Graffit Nanotiwbiau |
priodweddau deiamwnt? | -4 bond c-c -ymdoddbwynt/berwbwynt uchel -ynysydd -caled iawn -anhydawdd |
priodweddau graffit? | -dargludydd (1 electron dadleoledig) -ymdoddbwynt/berwbwynt uchel -meddal ac yn frau -anhydawdd mewn dwr |
priodweddau nanotiwbiau? | -dargludydd/lled dargludyddion trydanol -cryf iawn -anhydawdd mewn dwr -ymdoddbwynt/berwbwynt uchel -dwysedd isel |
paent thermocromig | newid lliw wrth i'r tymheredd newid e.e caniau cwrw, stribed mesur tymheredd |
paent ffotocromig | newid lliw wrth i arddwysedd y golau newid e.e lens spectol |
Aloion sy'n cofio siap | gallu adennill ei siap gwreiddiol wrth gael ei wresogi e.e stent meddygol, fframau spectol |
Polymerau cofio siap | gallu adennill ei siap gwreiddiol wrth gael ei wresogi e.e pwythau meddygol bioddiraddwy |
Geliau polymer | gallu amsugno lan i 1000 gwaith ei gyfaint e.e cewyn babi, polymer traws cysylltiedig |
beth yw isotop? | atomau o'r un elfen gyda gwahanol nifer o niwtronau yn y niwclews |
pa liw fflam mae sodiwm, lithiwm a photasiwm yn llosgi gyda? | Lithiwm = coch Sodiwm = melyn/oren Potasiwm = Lelog |
Adwaith metelau grwp 1 gydag ocsigen? | (4,1,2) e.e 4Na + O2 ----2NaO |
Adweithiau metelau grwp 1 gyda dwr? | (2,2,2,1) e.e 2Li + 2H20 -----2LiOH + H2 |
Adweithiau metelau grwp 1 gyda halogenau? | (2,1,2) e.e 2Na + Cl2 ----- 2NaCl (ffurfio powdr gwyn / halid) |
Adwaith gyda haearn a halogen? | Haearn yn gloywi wrth adweithio, digwydd y cyflymaf gyda chlorin ond yn arafu wrth fynd i lawr y grwp (gwyntyllydd - oherwydd mygdarth yn wenwynig) |
Pa lliw gwaddod mae; Clorid,Bromid,Iodid yn ffurfio? | clorid = gwaddod gwyn bromid = gwaddod hufen iodid = gwaddod melyn |
beth yw dwr caled? | dwr sy'n cynnwys mineralau fel Ca2+, Mg2+, HCO3- wedi cael nhw wrth hidlo trwy pridd |
sut allwch chi gael gwared ar galedwch dwr caled dros dro? | berwi fe |
sut allwch chi gael gwared ar galedwch dwr caled parhaol? | berwi ddim yn cael gwared arno fe, fe fydd yn rhaid cyfnewid yr ionau e.e Ca2+, Na+ |
Möchten Sie mit GoConqr kostenlos Ihre eigenen Karteikarten erstellen? Mehr erfahren.