Created by Elan Parry
almost 7 years ago
|
||
Atomau
-electronau (-) mean orbit o amgylch y niwclews
-niwclews = protonau (+) a niwtronau
dim gwefr
-orbitau = elecronau (-) = symud o gwmpas y niwclews.
electronau yn fach ond orbit yn cymryd llawer o le
Ïon
-os yw atom yn colli/ennill electron maen troi'n ïon
-ennill = negatif
-colli = positif
-Rhif Más = protonau + niwtronau
-rhif atomig = protonau/electronau
Elfennau
-sylweddau na ellir eu torri yn llai â dulliau cemegol
-blociau adeiladu sylfaenol bob sylwedd
-gwneud o un math o atom yn unig
-nifer y protonau
Cyfansoddion
-sylweddau sy'n cynnwys 2+ o elfennau wedi'i cyslltu'n gemegol
-priodweddau cemegol gwahanol i'r elfennau ynddynt
adwaith cemegol - atomau'n cael eu haildrefnu
-DIM ATOMAU'N CAEL EU CREU/DINISTRIO
Cyfansoddion ïonig
-adwatih cemegol = bondiau newydd yn ffurfio
-cyf. ïonig yn ffurfio drwy drosglwyddo electronau o atom metel i atom anfetel = ffurfio gronynnau a gwefr, sef ïonau
-atyniad electrostatig cryf rhwng y ddwy wefr sy'n eu cadw at ei gilydd
Isotopau
-ffurfiau atomig gwahanol o un elfen sy'n cynnwys yr un nifer o brotonau (ac electronau) on nifer gwahanol o niwtronau
ee.
Más atomig cymharol (Ar)
-más cyfartalog cymharol isotopau elfen
-rhaid iddo ganiatau ar gyfer más cymharol pob isotop a'i gyflenwad cymharol
-cyflenwad cymharol = faint o bob isotop o'i gymharu a chyfanswm yr elfen yn y byd
1. lluoswch fas bob isotop a'i gyflenwad cymharol
2. adiwch rain at ei gilydd
3. rhannwch âchyfanswm y cyflenwad cymharol
Más moleciwlaidd cymharol (Mr)
= cyfanswm más y cyfansoddyn
-cyfrifiad= adio Ar unigol pob atom yn y cyfansoddyn
Cyfansoddiad canrannol (%) cyfansoddion
-ar ôl cyfrifo'r Mr Gallwn gyfrifo Canran o elfen sydd mewn cyfansoddyn:
Cydbywso hafaliadau + Más cytbwys
-gweler tud. 8
Molau
-môl yn derm i ddisgrifio rhif penodol = 6.02x10 i'r pwer 23 o atomau (6 a 23 sero)
-diffinio môl fel nifer yr atomau ee. 12 yw rhif mas carbon felly mae más un môl o atomau carbon yn 12 gram
nifer y molau=Más mewn g (yr elfen neu'r cyfansoddyn
-------------------------------------
Mr (yr elfen neu'r cyfansoddyn)
Cyfrifiadau
-cynnyrch yw faint o gynhyrchion rydym yn cael o adwauth cemegol
-mwyf o adweithyddion = mwyaf fydd y cynnyrch gwirioneddol
cynnyrch canrannol=
cynnyrch gwirioneddol
---------------------- x100
cynnyrch wedi'i ragfynegi
cyfrifo masau adweithyddion
- Pa fas o fagnesiwm ocsid caiff ei gynhyrchu wrth losgi 60g o fagnesiwm?
Hafaliad symbolau: 2Mg + O2 = 2MgO
Mr: 2x24 2(24+16)
48 80 felly bydd 48g(neu dunnell)yn cynhyrchu80g
ar gyfer pon 1g = 80/48 = 1.67g
felly.... 60g yn cynhyrch 60x1.67 = 100.2g
1. darganfod gwahaniaeth mas = 4-3.2 = 0.8
Cu O
mas 3.2 0.8
2. rhannu ag Ar = /64 (Ar Cu) /16 (Ar O)
=0.5 =0.5
3. rhannu a'r lleiaf = /0.5 /0.5
=1 =1
felly 1Cu : 1O
i 1Cu mae 1O = Fformiwla = CuO
Gallwch wahanu cymysgeddau (sylweddau sydd heb eu cymysgu yn gemegol) heb ddulliau cemegol â phrosesau ffisegol fel:
1. hidlo
2. anweddu
3. cromatograffaeth
4. distyllu
Hidlo
-gwahanu solid anhydawdd (ddim yn hydoddi) o hylif
ee. gwahanu tywod a dŵr - dydy tywod ddim yn hydoddi mewn dŵr
Anweddu
-gwahanu solid hydawdd o hylif
ee. gwahanu grisialau copr sylffad o hydoddiant copr sylffad = DŴR SY'N ANWEDDU NID YR HYDODDIANT
Cromatograffaeth
-gwahanu cymysgeddau o gyfansoddion lliw
-rhoi smotyn yn agos at waelod y papur
-rhoi'r papur mewn hydoddydd ee. dŵr
-wrth i'r dŵr fwydo i fyny'r papur bydd y gwahanol gydrannau o'r gymysgedd yn symud ar wahanol gyfraddau
-Rf = pellter symyd cyfansoddyn
---------------------------------
pellter symyd hydoddydd
distyllu
-Gwahanu dŵr a hylifau cymysgadwy
-mae gan hylifau pur ferwbwyntiau penodol
-dull hwn yn gweithio am fod berwbwyntiau yn wahanol = un hylif yn anweddu cyn y llall
Adweithiau Cemegol
-arwyddion bod adwaith cemegol wedi digwydd:
-Newid tymheredd =
ECSOthermig - rhyddhau gwres
ENDOthermig - amsugno gwres
-Newid lliw
-Ffurfio Nwy (eferwad) neu swigod
-ffurfio solid - wrth gyfuno dau hylif gall solid o'r new gwaddod ffurfio
y tabl cyfnodol
-elfennau wedi trefnu yn nhrefn rhif atomig, o'r lleiaf i'r mwyaf
-rhesi llorweddol = cyfnodau
-colofnau fertigol = grwpiau
-elfennau yn yr un grŵp=priodweddau tebyg
-metelau ar y chwith
-anfetelau ar y dde
Metelau
-sgleiniog
-darludo gwres a thrydan
-hydrin (plygu, siapio heb dorri)
-solid ar dymheredd stafell (heblaw mercwri)
-caled a chryf
-dwysedd uchel
-soniarus
anfetelau
-dwl
-wael am ddargludo trydan a gwres
-gwan ac yn Frau
-dwysedd isel
-ddim yn soniarus
adeiledd electronig
-2,8,8
-pob metel yng ngrŵp 1 gyda 1 electron ar y plisgyn allanol
priodweddau
Metelau alcalïaidd
-ffisegol:
-dwl ar y tu allan
-tu mewn yn sgleiniog
-cadw mewn olew rhag adweithio ac ocsigen
-grŵp 1 yn adweithiol iawn- bondio drwy golli electron