Sut mae’n
cydymffurfio â
gofynion y Prosiect
Unigol
Ydy dy syniad yn un
priodol ar gyfer y
Prosiect Unigol?
Er enghraifft, ydy dy bwnc
yn ddibynnol ar lawer o
gymorth gan bobl eraill?
Mae’r prosiect unigol yn
gofyn am waith annibynnol
Amser
Faint o amser wyt ti
wedi’i gynllunio ar
gyfer dy brosiect?
Wyt ti wedi dewis pwnc y gelli di ei orffen o
fewn yr amser penodedig? Ystyria dy
wybodaeth bresennol, pa mor rhwydd yw
dod o hyd i wybodaeth, a chyflawnadwyedd
Cyflawnadwyeddd
Meddylia am
rychwant dy bwnc
Ydy dy syniad yn ddigon
mawr, ac yn ddigon
bach i greu prosiect sy’n
argyhoeddi o fewn y
cyfyngiad geiriau?
Diddordebau
Byddi di’n treulio llawer o amser ar
dy brosiect, felly gwna’n siŵr fod gen
ti ddiddordeb yn y pwnc
Cymorth sydd
ar gael
Faint o help wyt ti
eisiau i ddod o hyd i
wybodaeth am y pwnc?
Wyt ti’n siŵr fod digon o
gefnogaeth gennyt ar
gyfer dy ddewis o bwnc?
Dy gymhelliant
Ystyria pam wyt ti’n
gwneud y Prosiect Unigol
Os wyt ti’n ei wneud ar gyfer
datblygu dy Ddatganiad
Personol, dewisa bwnc sydd
yn gwneud hyn.
Pa mor
hawdd yw
dod o hyd i
wybodaeth
Archwilia i weld pa mor
hawdd yw dod o hyd i
wybodaeth am dy bwnc
Os ydy hyn yn anodd, falle fod
angen i ti ail-ystyried dy bwnc
Gwaith cwrs
presennol
Cofia nad yw dy Brosiect Unigol
yn gallu ail-adrodd gwaith rwyt
ti wedi ei wneud ar gyfer dy
Lefel A neu waith cwrs arall
Gall ymestyn rhywbeth rwyt ti
wedi ei archwilio o’r blaen, ond
NI ALL fod yr un peth
Moeseg
Ydy dy brosiect
yn foesegol?
Os ydy dy brosiect yn
ymwneud â phobl, gwna’n
siŵr dy fod yn parchu eu
preifatrwydd a’r modd rwyt
ti’n sôn amdanyn nhw
Gwybodaeth
bresennol
Falle fyddi’n ei gweld hi’n
haws dewis pwnc rwyt
ti’n gwybod rhywbeth
amdano
Rwyt ti’n gallu dod o hyd
i’r hyn rwyt ti’n ei wybod
yn barod, a beth sydd
eisiau ei wybod ymhellach
Meddylia’n ddwys cyn
dewis pwnc sy’n hollol
newydd i ti, achos gall hwn
olygu llawer mwy o waith!